NDM8724 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl
NDM8724 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar gefnogaeth i ofalwyr di-dâl
NDM8724 Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) gwella'r cymorth sydd
ar gael gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a lleoliadau gofal iechyd ar
gyfer gofalwyr di-dâl, yn seiliedig ar yr hawliau a nodir yn Neddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
b) cadarnhau'r gwaith o
gasglu a monitro data ymgysylltu â gofalwyr di-dâl ar draws gwasanaethau
statudol i adrodd arnynt o bryd i'w gilydd;
c) sicrhau bod rhagor o
ddata gofalwyr di-dâl yn cael e u rhannu, lle bo hynny'n briodol, rhwng
gwasanaethau statudol i gefnogi gofalwyr wrth iddynt lywio drwy wasanaethau ac
eirioli dros y bobl y maent yn gofalu amdanynt; ac
ch)
gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydnabod gofalwyr
di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth ddylunio a darparu pob ymyriad polisi yn
y dyfodol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2025