Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach
Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach
Ar 11 Mehefin
2024, trafododd y Pwyllgor Busnes
lythyr gan Mark Drakeford AS, Adam Price AS, Jane Dodds AS a Paul Davies AS a
oedd yn cynnwys cynnig i dreialu fformat achlysurol newydd ar gyfer dadleuon yn
y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher sy’n canolbwyntio ar ‘ddewisiadau gwleidyddol
allweddol’.
Ym mis Hydref
2024, trafododd y Pwyllgor opsiynau ynghylch amserlennu, natur a strwythur
treial posibl o ddadl ffurf hirach achlysurol yn ystod 2025.
Ymgynghorodd y
Pwyllgor Busnes â grwpiau’r pleidiau ac Aelodau o’r Senedd a oedd wedi gwneud y
cynnig gwreiddiol ar ei ddull arfaethedig o ymdrin â’r treial.
Trafododd yr
ymatebion a gafwyd ym mis Rhagfyr 2024 a chytunodd i amserlennu tair ‘dadl
agored’ ar sail treial yn ystod 2025.
Trafododd y
Pwyllgor Busnes ganllawiau i’r aelodau, a chytuno arnynt, yn ei gyfarfod ar 11
Chwefror cyn y ddadl gyntaf, sydd i’w chynnal ar 19 Mawrth 2025.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/01/2025