P-06-1491 Rydym yn mynnu bargen deg i drigolion yr effeithir arnynt gan y cynllun Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau
P-06-1491 Rydym yn mynnu bargen deg i drigolion yr effeithir arnynt gan y cynllun Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Rhiannon Goodall, ar ôl casglu cyfanswm o 333 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Ym mis Medi 2012,
ymunodd trigolion Caerau ac ardaloedd eraill yng Nghymru â chynllun
effeithlonrwydd ynni a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Darparodd y cynllun inswleiddio wal fewnol ac allanol i'r tai dan sylw ac, ers
i’r inswleiddio gael ei osod, mae tai cyfranogwr wedi dioddef o leithder a
llwydni.
Mae hyn yn ei dro
wedi bod yn dreth ar gyllid preswylwyr ac mae wedi effeithio'n negyddol ar
iechyd meddwl preswylwyr.
Fe wnaethon ni
ymuno â'r cynlluniau hyn gyda phob ewyllys da, ac rydym nawr am i'r ewyllys da
honno gael ei had-dalu.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Roedd y gwaith yn
cynnwys insiwleiddio mewnol ac allanol, boeleri newydd, fentiau ar yr eiddo, a
gwaith rendro.
Ers i'r gwaith
gael ei wneud, mae trigolion wedi gorfod byw gydag achosion eithafol o leithder
a llwydni. Oherwydd hyn, mae trigolion yn gorfod talu am waith i unioni pethau,
fel talu am geginau newydd, carpedi newydd, paent newydd, bleindiau newydd. Mae
hyn wedi bod yn broblem barhaus ers dros ddegawd bellach. Yn anffodus, mae rhai
trigolion wedi marw heb weld y materion hyn yn cael eu datrys. Ceir isod lincs
i straeon newyddion sy'n rhoi rhagor o wybodaeth:
https://oggybloggyogwr.com/2021/11/the-caerau-insulation-scandal-a-timeline-of-shame/
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-60765932
Rhaid unioni’r
difrod i'r eiddo, a rhaid digolledu’r trigolion am y miloedd o bunnoedd maen
nhw wedi eu talu o’u pocedi eu hunain i ddadwneud y difrod.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 12/01/2026 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/03/2025.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
·
Ogmore
·
Gorllewin
De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2025