P-06-1506 Rydym yn galw am ddiwedd ar gyllid cyhoeddus pellach ar gyfer llwybrau beicio a seilwaith beicio yng Nghymru
P-06-1506 Rydym yn galw am ddiwedd ar gyllid cyhoeddus pellach ar gyfer llwybrau beicio a seilwaith beicio yng Nghymru
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Steve Williams, ar ôl casglu 530 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae symiau sylweddol
eisoes wedi’u cyfeirio at brosiectau beicio, a reolir gan sefydliadau fel
Sustrans, drwy garedigrwydd Llafur Cymru. Er bod llwybrau beicio yn darparu
buddion i ran fechan o'r boblogaeth, mae dyrannu'r cronfeydd hyn yn dod ar
draul meysydd llawer mwy hanfodol, megis gofal iechyd ac addysg sy'n
gwasanaethu'r boblogaeth ehangach. Credwn y dylid ailgyfeirio arian trethdalwyr
i gefnogi’r gwasanaethau hanfodol hyn sydd o fudd i bawb, nid prosiectau
arbenigol.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Rhwng mis Ebrill
2021 a mis Mawrth 2024, derbyniodd Sustrans (elusen) £3,879,376.26 gan
Lywodraeth Cymru. Cyfeirnod: LLYW.Cymru
Yn 2020,
cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £38 miliwn mewn teithio llesol
ledled Cymru, gan nodi’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwelliannau teithio
llesol lleol yn y wlad. Cyfeirnod: Sustrans
At hynny, ym mis
Tachwedd 2024, dyfarnwyd contract newydd i Sustrans Cymru i gyflawni rhaglen
Teithiau Llesol Llywodraeth Cymru, gan barhau â’i waith i gefnogi plant a phobl
ifanc ledled Cymru i deithio’n gynaliadwy ac yn egnïol. Cyfeirnod: Sustrans
Mae’r
buddsoddiadau sylweddol hyn yn amlygu’r cyllid sylweddol a ddyrannwyd eisoes
i’r seilwaith beicio a rhaglenni cysylltiedig yng Nghymru.
Mae buddsoddi
mewn meysydd hollbwysig sy’n gwasanaethu’r boblogaeth ehangach yn hanfodol ar
gyfer llesiant Cymru. Gadewch inni flaenoriaethu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig
a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio lle gall wneud y
gwahaniaeth mwyaf i nifer fawr, nid nifer fach.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 14/07/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/07/2025.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
· Gorllewin
Casnewydd
· Dwyrain De
Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2025