NDM8785 Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG

NDM8785 Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG

NDM8785 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi uchelgais y Prif Weinidog i leihau’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth GIG.

2. Yn gresynu:

a) bod rhestrau aros y GIG wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ym mhob mis o gyfnod y Prif Weinidog hyd yma;  a

b) methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni’r targedau a osodwyd gan y Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio ym mis Ebrill 2022 i ddileu amseroedd aros hir yn gyfan gwbl a chyflymu profion diagnostig ac ymyriadau therapi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu Gwasanaeth Brysbennu Gofal Dewisol i symleiddio'r broses atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd;

b) cyflwyno hybiau rhanbarthol arbenigol ar gyfer gofal dewisol ledled Cymru; ac

c) cyflwyno deddfwriaeth i roi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar sylfaen statudol gyda chylch gwaith clir i hwyluso cydweithio ar draws byrddau iechyd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod arosiadau o fwy na 104 wythnos wedi gostwng ddau draean ers iddynt fod ar eu hanterth yn ystod y pandemig.

Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol yng nghynlluniau'r byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ymhellach yn 2024-25.

Yn cydnabod camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros drwy ddatblygu:

a) y ganolfan llawfeddygaeth orthopedig ranbarthol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot;

b) Ysbyty Llandudno yn ganolfan lawfeddygol orthopedig ar gyfer y Gogledd; ac

c) y ganolfan ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ehangu nifer y canolfannau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig;

b) cynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael yn GIG Cymru;

c) cyflwyno cynllun recriwtio a chadw sylweddol ar gyfer y gweithlu;

d) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn sy'n deillio o wariant Llywodraeth y DU ar y GIG ar gael ar gyfer GIG Cymru; a

e) rhoi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn osgoi eu cynnydd arfaethedig mewn amseroedd aros am driniaethau trawsffiniol.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/01/2025