NDM8785 Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG
NDM8785 Dadl Plaid Cymru - Amserau aros y GIG
NDM8785 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi uchelgais y
Prif Weinidog i leihau’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth
GIG.
2. Yn gresynu:
a) bod rhestrau aros y
GIG wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ym mhob mis o gyfnod y Prif Weinidog
hyd yma; a
b) methiant Llywodraeth
Cymru i gyflawni’r targedau a osodwyd gan y Cynllun Adfer Gofal wedi’i
Gynllunio ym mis Ebrill 2022 i ddileu amseroedd aros hir yn gyfan gwbl a
chyflymu profion diagnostig ac ymyriadau therapi.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sefydlu Gwasanaeth
Brysbennu Gofal Dewisol i symleiddio'r broses atgyfeirio rhwng gofal sylfaenol
ac eilaidd;
b) cyflwyno hybiau
rhanbarthol arbenigol ar gyfer gofal dewisol ledled Cymru; ac
c) cyflwyno deddfwriaeth
i roi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar sylfaen statudol gyda chylch gwaith
clir i hwyluso cydweithio ar draws byrddau iechyd.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod arosiadau o
fwy na 104 wythnos wedi gostwng ddau draean ers iddynt fod ar eu hanterth yn
ystod y pandemig.
Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol yng nghynlluniau'r
byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ymhellach yn 2024-25.
Yn cydnabod camau
gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau aros drwy ddatblygu:
a) y ganolfan
llawfeddygaeth orthopedig ranbarthol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot;
b) Ysbyty Llandudno yn
ganolfan lawfeddygol orthopedig ar gyfer y Gogledd; ac
c) y ganolfan
ddiagnostig a llawfeddygol yn Llantrisant.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) ehangu nifer y
canolfannau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig;
b) cynyddu nifer y
gwelyau sydd ar gael yn GIG Cymru;
c) cyflwyno cynllun
recriwtio a chadw sylweddol ar gyfer y gweithlu;
d) sicrhau bod y
swm canlyniadol Barnett llawn sy'n deillio o wariant Llywodraeth y DU ar y
GIG ar gael ar gyfer GIG Cymru; a
e)
rhoi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn
osgoi eu cynnydd arfaethedig mewn amseroedd aros am driniaethau trawsffiniol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/01/2025