NDM8783 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU
NDM8783 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Chwe mis cyntaf Llywodraeth newydd y DU
NDM8783 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi
bod Llywodraeth Lafur y DU wedi bod mewn grym am chwe mis yn Ionawr
2025.
2. Yn gresynu bod
Llywodraeth Lafur y DU wedi:
a) taro ffermwyr Cymru
gyda threth etifeddiaeth newydd;
b) tynnu'r lwfans
tanwydd gaeaf i ffwrdd o hanner miliwn o bensiynwyr yng Nghymru;
c) cynyddu costau
yswiriant gwladol cyflogwyr yng Nghymru.
3. Yn gresynu ymhellach
fod Llywodraeth Cymru wedi methu ag amddiffyn Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud y canlynol:
a) gwneud sylwadau brys
i Lywodraeth y DU i'w hannog i wrthdroi eu polisïau i gyflwyno treth
etifeddiaeth, cael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf, a chynyddu costau
yswiriant gwladol cyflogwyr;
b) cyflwyno lwfans
tanwydd gaeaf Cymreig os yw'r toriad i'r lwfans tanwydd gaeaf yn parhau i fod
ar waith.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi y bu’n rhaid i
Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau anodd er mwyn dechrau adfer twf yn ein
heconomi, sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn fwy sefydlog ac ail-fuddsoddi yn ein
gwasanaethau cyhoeddus.
Yn croesawu’r cyllid
ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y
DU.
Yn nodi’r ffaith bod y
penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn ei chwe mis cyntaf yn
golygu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwerth £1.5 biliwn o
gyllid refeniw ychwanegol a gwerth £3 biliwn o gyllid cyfalaf, gan alluogi
Cymru i anelu at dwf.
Yn
credu y dylai cyllideb Cymru ganolbwyntio i ddechrau ar gyfrifoldebau
datganoledig.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/01/2025