P-06-1501 Cynnwys rygbi yn y cwricwlwm i Gymru o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd.

P-06-1501 Cynnwys rygbi yn y cwricwlwm i Gymru o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd.

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Alex Linney, ar ôl casglu cyfanswm o 646 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Fel Hyfforddwr tîm rygbi dan 10 oed rwyf wedi profi a gweld yr effaith gadarnhaol y mae rygbi yn ei chael ar ddatblygiad chwaraeon, sgiliau cymdeithasol, llesiant meddyliol a sgiliau bywyd plant.

 

*Rwyf wedi sylwi yn ystod fy nghyfnod fel hyfforddwr mai ychydig iawn o ysgolion cynradd yng Nghymru sy’n cynnig rygbi.

*Yn anffodus nid yw ysgolion yn blaenoriaethu rygbi ac yn aml mae'n ôl-ystyriaeth.

*Nid yw plant yn cael cyfle i ddatblygu angerdd am y gamp o oedran ifanc.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn ogystal â’m pwyntiau uchod, credaf fod hyn yn cyfrannu at ddirywiad rygbi ar draws Gymru gyfan, ac rydym eisoes yn gweld canlyniadau hynny.

 

Rwy'n angerddol iawn am rygbi a'r buddion y mae'n eu cynnig i blant, ac rwy'n credu y dylai fod yn rhan o'u haddysg gynradd.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 12/05/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/05/2025. 

 

A person holding a ball

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd  

·     Mynwy

·     Dwyrain De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2025