Cymorth tai i bobl sy'n agored i niwed

Cymorth tai i bobl sy'n agored i niwed

Inquiry4

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad ar gymorth tai i bobl sy’n agored i niwed ar 15 Mai 2025. (PDF 276 KB)

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad – 1 Hydref (PDF 164KB).

 

 

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i dai i bobl agored i niwed, gyda ffocws cychwynnol ar wasanaethau cymorth tai.

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hwn yw archwilio:

>>>> 

>>>Pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer dyfodol y Grant Cymorth Tai yng ngoleuni'r cyfnod pontio ailgartrefu cyflym a'r Bil Digartrefedd arfaethedig;

>>>Y pwysau presennol a’r pwysau a ragwelir wrth ddarparu gwasanaethau cymorth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu;

>>>Faint sy'n hysbys am berfformiad gwasanaethau, gan gynnwys data ar ganlyniadau;

>>>Pa mor effeithiol yw’r cydweithio rhwng gwasanaethau cymorth tai a gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd a gofal cymdeithasol; a

>>>Pa wasanaethau y dylid eu comisiynu yn y dyfodol i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth yn effeithiol i ddod o hyd i gartref a'i gadw.

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2024

Dogfennau

Papurau cefndir