NDM8764 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai a digartrefedd
NDM8764 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai a digartrefedd
NDM8764 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y
lefel ddigartrefedd ar ei huchaf ers 2015 ar hyn o bryd.
2. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru.
3. Yn nodi pryder y bydd
targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn cael ei
fethu.
4. Yn cydnabod
pwysigrwydd model tai yn gyntaf i roi terfyn ar ddigartrefedd.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i weithredu model tai
yn gyntaf a'r hawl i gael tai priodol i roi terfyn ar ddigartrefedd, gan
weithio gyda'r sector cymorth tai yng Nghymru;
b) i droi eiddo gwag yng
Nghymru yn gartrefi unwaith eto drwy ehangu'r cynllun Cymorth i Brynu i gynnwys
y rhai y mae angen eu hadnewyddu;
c) i gyflymu'r broses
gynllunio drwy greu tasglu gweithredu ar y cyd o gynllunwyr i dargedu’r
awdurdodau cynllunio lleol sy'n perfformio fwyaf araf, a rhoi ceisiadau ar
gyfer datblygiadau tai fforddiadwy ar lwybr carlam; a
d) i leihau rhestrau
aros am dai cymdeithasol drwy ddod â chartrefi gwag yn ôl i'w defnyddio ar
gyfer rhent cymdeithasol a rhentu i brynu.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) ystadegau diweddaraf
Llywodraeth Cymru o 30 Medi 2024 sy'n dangos bod 11,363 o unigolion wedi cael
eu cartrefu mewn llety dros dro, ochr yn ochr â thros 139,000 o bobl ar restrau
aros tai cymdeithasol;
b) nad yw Llywodraeth
Cymru ar drywydd i gyflawni ei tharged o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel
ar gyfer rhent cymdeithasol erbyn diwedd tymor y Senedd hon; ac
c) argymhelliad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y dylai o leiaf 20 y cant o’r stoc tai gynnwys
tai cymdeithasol, a hyd at draean yn yr hir dymor, gyda Llywodraeth Cymru i
ddatblygu strategaeth er mwyn cyflawni'r targed hwn.
2. Yn credu:
a) bod yr argyfwng tai
yng Nghymru ac ar draws y DU wedi'i waethygu ymhellach dan lywodraeth Margaret
Thatcher a'r polisi hawl i brynu, gan dorri'r stoc o dai cyngor bron i hanner
dros gyfnod y polisi; a
b) bod y prinder
difrifol o eiddo sydd ar gael i'w rentu ar gyfer aelwydydd incwm isel sy'n dod
o dan y lwfans tai lleol yn gwthio pobl i ansicrwydd tai a digartrefedd.
3. Yn gresynu at:
a) y cynnydd mewn
digartrefedd o dan Lywodraeth Cymru a Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU;
a
b) effaith niweidiol
polisïau llymder a ddilynwyd gan Lywodraethau Ceidwadol a Llafur y DU, sydd
wedi gwaethygu anghydraddoldeb tai.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gynyddu'r grant tai
cymdeithasol;
b) codi'r grant cymorth
tai;
c) pennu cynllun clir ar
gyfer cyflawni argymhelliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai o sicrhau bod o
leiaf 20 y cant o’r stoc tai yn cynnwys tai cymdeithasol erbyn tymor nesaf y
Senedd, fel rhan o strategaeth hir dymor; a
d) ymgorffori'r hawl i
dai digonol yng nghyfraith Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau bod cyfraddau lwfans tai lleol yn adlewyrchu rhenti go iawn o
fewn y sector rhentu preifat yng Nghymru.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y pwysau
presennol o fewn y system digartrefedd a buddsoddiad gwerth £220 miliwn
Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau atal a chymorth ar gyfer digartrefedd
eleni.
2. Yn croesawu’r camau
uchelgeisiol a radical i ddiwygio’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd sydd ar y
gweill yn ystod y tymor hwn ac a amlinellir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar
ddigartrefedd.
3. Yn cydnabod y
buddsoddiad uwch nag erioed, sef £1.4 biliwn, mewn tai cymdeithasol yn ystod y
tymor hwn hyd yma.
4. Yn cydnabod
swyddogaeth y grant cartrefi gwag o ran sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu
defnyddio unwaith eto.
5. Yn canmol y gwaith
partneriaeth sy’n cefnogi camau cyflenwi dull Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
6. Yn croesawu cyhoeddi
Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd.
Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/12/2024