NDM8747 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol
NDM8747 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol
NDM8747 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Lafur y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i osod treth fferm deuluol ar fusnesau
amaethyddol.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad
pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd
a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad
Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod
newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn
cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau
cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth
amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad
eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gynnal asesiad manwl o effaith y newidiadau
trethianol ar fusnesau amaethyddol, er mwyn deall yr effaith y mae’n debygol
o’i gael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/11/2024