P-06-1481 Mae angen ymchwiliad gyhoeddus ar bobl Cymru i’r rhodd o £200,000 i Vaughan Gething

P-06-1481 Mae angen ymchwiliad gyhoeddus ar bobl Cymru i’r rhodd o £200,000 i Vaughan Gething

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Wayne Croot, ar ôl casglu 7,284 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Gwnaed rhodd o £200,000 i Vaughan Gething i gefnogi ei gais i ddod yn Brif Weinidog, er mai dim ond mater o ganfasio am bleidleisiau gan undebau llafur oedd hyn i bob pwrpas. Cafodd y cwmni a wnaeth y rhodd fenthyciad sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru, is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn er mwyn dod i ddeall manylion y benthyciad, ei ddiben, y rhodd yn dilyn hynny, a sut y gwariwyd y rhodd.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 2/12/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 2/12/2024. 

 

 

A red dragon on a green and white flag

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·     Caerffili

·     Dwyrain De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/11/2024