Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau canser Felindre a’r Gwaith o ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre.

Mae ffocws yr ymchwiliad hwn yn ymwneud â phrosesau caffael yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y Ganolfan Ganser newydd.

Mae'r ymchwiliad hwn ar wahân i'r adolygiad annibynnol y mae Archwilio Cymru yn ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch y penderfyniadau sy'n ymwneud â datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre (nVCC).

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y darn hwn o waith maes o law.

 

 

Gwaith hyd yma

 

Ø  Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth lafar gydag uwch-swyddogion Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2024.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/11/2024

Dogfennau