Amserlen Modiwl 1 Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru
Amserlen Modiwl 1 Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru
8 Tachwedd 2024 – 3 Ionawr 2025
Ymgynghoriad – nodi unrhyw ‘fylchau’ sy’n deillio
o Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU, yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi
yng nghylch gwaith y Pwyllgor.
Rhagfyr 2024
Arbenigwyr ym maes Paratoadau Sifil a Chynllunio
ar gyfer Argyfyngau o Brifysgol Nottingham Trent i wneud gwaith dadansoddi ar y
bylchau sy’n deillio o Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU ac
Adolygiad Gweithredol Interim Cymru. Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe i
gyfrannu at y gwaith hwn.
2 Rhagfyr 2024
Digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid – ymgysylltu
â’r holl randdeiliaid, trafod eu safbwyntiau ar Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad
Covid-19 y DU, a nodi unrhyw fylchau sy’n deillio o’r adroddiad hwnnw.
Ionawr 2025
Y Pwyllgor i drafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad
/ y gwaith dadansoddi ar y bylchau gan Brifysgol Nottingham Trent.
Rhagfyr 2024 / Ionawr 2025
Ymateb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i
Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.
Ionawr 2025
Ar ôl cwblhau’r uchod, cynnig i’r Senedd, drwy
gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a
chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 y dylid eu harchwilio
ymhellach.
Chwefror / Mawrth 2025
Yn amodol ar y Senedd yn cymeradwyo’r bylchau hyn
– nifer o sesiynau tystiolaeth gyda thystion perthnasol a Llywodraeth Cymru
Mawrth / Ebrill 2025
Y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad
Ebrill 2025
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor.
Sylwer: mae'r
dyddiadau hyn yn ddangosol ac yn destun newid.
Math o fusnes:
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/11/2024
Dogfennau