Amserlen Modiwl 1 Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Amserlen Modiwl 1 Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

8 Tachwedd 2024 – 3 Ionawr 2025

Ymgynghoriad – nodi unrhyw ‘fylchau’ sy’n deillio o Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU, yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yng nghylch gwaith y Pwyllgor.

 

Rhagfyr 2024

Arbenigwyr ym maes Paratoadau Sifil a Chynllunio ar gyfer Argyfyngau o Brifysgol Nottingham Trent i wneud gwaith dadansoddi ar y bylchau sy’n deillio o Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU ac Adolygiad Gweithredol Interim Cymru. Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe i gyfrannu at y gwaith hwn.

 

2 Rhagfyr 2024

Digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid – ymgysylltu â’r holl randdeiliaid, trafod eu safbwyntiau ar Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU, a nodi unrhyw fylchau sy’n deillio o’r adroddiad hwnnw.

 

Ionawr 2025

Y Pwyllgor i drafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad / y gwaith dadansoddi ar y bylchau gan Brifysgol Nottingham Trent.

 

Rhagfyr 2024 / Ionawr 2025

Ymateb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.

 

Ionawr 2025

Ar ôl cwblhau’r uchod, cynnig i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach.

 

Chwefror / Mawrth 2025

Yn amodol ar y Senedd yn cymeradwyo’r bylchau hyn – nifer o sesiynau tystiolaeth gyda thystion perthnasol a Llywodraeth Cymru

 

Mawrth / Ebrill 2025

Y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad

 

Ebrill 2025

Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor.

 

Sylwer: mae'r dyddiadau hyn yn ddangosol ac yn destun newid.

Math o fusnes:

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/11/2024

Dogfennau