NDM8721 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog
NDM8721 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog
NDM8721 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai 14
Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.
2. Yn gresynu nad yw'r
Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru
yn eu haeddu.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw’r Prif
Weinidog wedi amlinellu gweledigaeth newydd gynhwysfawr ar gyfer ei
Llywodraeth.
Yn gresynu nad yw’r Prif
Weinidog wedi llwyddo i wneud yr achos yn ddigon cryf gyda Llywodraeth y
Deyrnas Unedig dros:
a) cyflwyno fformiwla
cyllido teg i gymryd lle fformiwla Barnett;
b) datganoli Ystad y
Goron;
c) digolledu Cymru’n
llawn am wariant ar HS2;
d) gwrthdroi’r
penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i rai pensiynwyr; ac
e) cael gwared ar y cap
budd-dal dau blentyn.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le:
Yn cydnabod y cynnydd
sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan
gynnwys:
a) sefyll i fyny dros
deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr
gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl
blant ysgolion cynradd Cymru;
b) sefyll i fyny dros y
GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau
aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol;
ac
c)
sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU,
partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a
£25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â
thomenni glo nas defnyddir.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2024