P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru
P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Alun Phillips, ar ôl casglu 367 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Am fwy na degawd,
mae’r asiantaeth sydd â mandad i ddiogelu amgylchedd Cymru wedi gweld dirywiad
yn ei gallu i ymgymryd â’i diben statudol, yn fy marn i.
Dylid achub
afonydd llygredig Cymru (sef rhydwelïau ein byd natur) a rhoi bywyd newydd
iddynt.
Mae angen cynnal
adolygiad cynhwysfawr o erlyniadau diffygiol y corff, ynghyd â’i ddiffyg
gweithredu, a hynny er mwyn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae mwyafrif
helaeth y staff sy’n gweithio yn y sefydliad yn gwneud hynny’n ddiwyd, gan
ddefnyddio’r adnoddau sydd ganddynt, er mwyn diogelu amgylchedd Cymru.
Mae gor-gymhlethu
materion ac ymgymryd â phrosiectau diangen yn arwain at ostyngiad mewn adnoddau
ariannol a diffyg gweithredu mewn meysydd blaenoriaeth.
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r modd y caiff prosiectau eu
hariannu, gyda’r nod o ddileu gwariant gwastraffus a sicrhau’r canlyniadau
gorau posibl o ran y materion sylfaenol y mae amgylchedd Cymru yn eu hwynebu ar
hyn o bryd.
Mae hyn yn
cynnwys, ymhlith pethau eraill, diogelu ac adfer systemau afonydd Cymru er budd
y byd naturiol a’r bobl sy’n eu mwynhau.

Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd
·
Pen-y-bont ar Ogwr
·
Gorllewin De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024