NDM8713 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
NDM8713 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
NDM8713 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod Cyllideb
yr Hydref Llywodraeth y DU yn torri ymrwymiad maniffesto Llafur i beidio codi
trethi ar bobl sy'n gweithio.
2. Yn gresynu y bydd yn
rhaid i lawer o bensiynwyr ddewis rhwng bwyta a gwresogi o ganlyniad i dynnu
taliadau tanwydd y gaeaf yn ôl.
3. Yn cydnabod y bydd y
cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei gwneud yn anos i
fusnesau gyflogi a chadw staff.
4. Yn mynegi ei siom bod
cyllideb Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni naill ai trydaneiddio prif
linell reilffordd Gogledd Cymru neu gyllid canlyniadol Barnett o brosiect
HS2 i Gymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) defnyddio cyllid sy'n
deillio o Gyllideb yr Hydref i gefnogi'r gwaith o leihau rhestrau aros y GIG a
chryfhau gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru;
b) darparu cymorth i
bensiynwyr Cymru drwy fisoedd y gaeaf drwy sefydlu lwfans tanwydd gaeaf yng
Nghymru;
c) cynyddu buddsoddiad
yn system addysg Cymru i wella deilliannau dysgwyr yn ein hysgolion;
d) amddiffyn ffermwyr
drwy gefnogi'r achos i gynnal rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo
busnes at ddibenion treth etifeddiant; ac
e) sefyll dros Gymru
drwy chwilio am fformiwla ariannu newydd sy'n seiliedig ar anghenion i gymryd
lle fformiwla Barnett.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) cyllideb y DU a’r
cyllid ychwanegol gwerth £1.7 biliwn i Gymru; a
b) y cyllid ychwanegol
ar gyfer diogelwch tomenni glo a’r cynnydd mewn cyllid cyfalaf ar gyfer
buddsoddi mewn seilwaith.
2. Yn cydnabod bod hyn
yn gam cyntaf tuag at unioni’r difrod a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU
i wasanaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus.
3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru:
a) yn cyhoeddi ei
chyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, gan nodi sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau
a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG, ysgolion a llywodraeth leol;
a
b) yn parhau i weithio
gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid teg i’r rheilffyrdd yng Nghymru a mwy o
hyblygrwydd cyllidebol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y difrod
dwys a achoswyd i gyllid a gwasanaethau cyhoeddus Cymru gan bedair blynedd
ar ddeg o gyni dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a'r adladd o
gyllideb fach Hydref 2022.
Gwelliant 3 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y methiant
i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn creulon sy'n cyfrannu'n
uniongyrchol i gyffredinrwydd brawychus tlodi plant mewn cymdeithas.
Gwelliant 4 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn
ei le:
Yn mynegi ei siom nad yw
cyllideb Llywodraeth y DU wedi cynnwys cyllid canlyniadol HS2 i Gymru, heb
ddarparu arian newydd ar gyfer prosiectau trydaneiddio rheilffyrdd, a lleihau'r
ffactor cymharedd adrannol ar gyfer gwariant rheilffyrdd y DU sy’n berthnasol i
Gymru ymhellach fyth, a fydd yn gwaethygu'r tanfuddsoddiad systematig yn
rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.
Gwelliant 5 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 4:
Yn mynegi siom am
anweithred Llywodraeth Lafur bresennol y DU ar ddatganoli Ystad y Goron i
alluogi Cymru i elwa ar gyfoeth ei hadnoddau naturiol ei hun.
Gwelliant 6 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw:
a) ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn
yn ddi-oed;
b) am fargen ariannu deg
i awdurdodau lleol yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod, i sicrhau nad
yw'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith
andwyol ar eu cyllid; ac
c)
ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r arian ychwanegol a gafodd o gyllideb yr
hydref i wrthdroi'r toriad i ryddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd ym mis
Ebrill.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/11/2024