Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru

Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru

Inquiry5

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad archwiliadol byr i ddeallusrwydd artiffisial ac economi Cymru.

 

Cylch gorchwyl

 

Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>I ba raddau y mae busnesau yng Nghymru yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol?

>>>Beth yw’r cyfleoedd a’r risgiau economaidd posibl y gallai deallusrwydd artiffisial eu cyflwyno i Gymru, a sut y gallant amrywio ar draws gwahanol rannau o Gymru ac ar draws gwahanol sectorau?

>>>Sut mae deallusrwydd artiffisial yn debygol o effeithio ar swyddi a gweithwyr yng Nghymru, a pha gamau y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu cymryd mewn ymateb i hynny?

>>>Pa sgiliau sy’n debygol o fod eu hangen o ganlyniad i ddefnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle, a pha mor dda yw sefyllfa Cymru i ddarparu’r sgiliau hynny?

<<<< 

 

Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan? ar 20 Mai 2025 (PDF 2.2 MB)

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 148KB)

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Medi 2025.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2024

Ymgynghoriadau