NDM8656 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cymorth i farw
NDM8656 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cymorth i farw
NDM8656 Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw'r
cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru,
gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith
droseddol.
2. Yn nodi, pe bai
cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros
iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael
dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion.
3. Yn credu y dylai
oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir
ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn
o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn.
4. Yn nodi bod
ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan wedi
canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal
lliniarol mewn sawl awdurdodaeth.
5. Yn nodi bod y Swyddfa
Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol
orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb
unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf.
6. Yn nodi bod
agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r
cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith.
7. Yn nodi, o ran pobl
o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â'u bywyd i
ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a fyddai'n
dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel perthnasol,
sy’n aml ymhell dros £10,000.
8. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cefnogi egwyddorion
cymorth i farw; a
b) cefnogi senedd San
Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.
Cyd-gyflwynwyr
Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
James Evans
(Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru)
Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024