NDM8686 Dadl Plaid Cymru - Ariannu addysg
NDM8686 Dadl Plaid Cymru - Ariannu addysg
NDM8686 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad
‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu' gan yr
NAHT sy'n nodi bod y dirwedd addysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu
argyfwng cyllido dirdynnol.
2. Yn gresynu o
ganlyniad i gamreolaeth a thanariannu Llywodraeth Cymru:
a) fe welodd Cymru ei
chanlyniadau PISA gwaethaf erioed yn 2022;
b) ei bod wedi methu ei
tharged ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd diwethaf;
c) fod canllawiau ar
ddysgu sgiliau darllen sydd wedi dyddio a’u tanseilio wedi cael effaith
negyddol ar sgiliau llythrennedd; a
d) cyrhaeddodd nifer y
swyddi gwag o ganlyniad i diffyg sgiliau yng Nghymru cyrraedd uchafbwynt o
20,630 yn 2022.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) anrhydeddu ar unwaith
yr ymrwymiad a wnaed gan Lafur yng Nghymru yn eu maniffesto Etholiad
Cyffredinol 2024 ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer addysg;
b) gwrthdroi'r toriad o
6 y cant mewn gwariant fesul disgybl o fewn y gyllideb addysg, fel y nodwyd gan
yr NAHT, fel cam cyntaf i gefnogi athrawon a disgyblion a chodi lefelau
cyrhaeddiad; ac
c) diffinio faint mwy o
athrawon fydd yn cael eu hariannu gan addewid Llafur yng Nghymru, a phryd y
byddant yn dechrau addysgu mewn ystafelloedd dosbarth.
Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n
dwysáu
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r adroddiad
‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr
NAHT, ac yn cydnabod y pwysau ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol.
2. Yn diolch i athrawon
a staff ysgol ymroddedig Cymru am eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb
Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n
cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon.
3. Yn cydnabod, er
gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus
Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi:
a) cyflwyno’r Cwricwlwm
newydd i Gymru a system newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol,
y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system addysg;
b) gweithredu dull ysgol
gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac
c) diogelu’r cyllid ar
gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i
gyllidebau awdurdodau lleol a chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion
gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm
isel.
4. Yn cefnogi hybu
safonau mewn ysgolion a cholegau fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan
gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar
gyfer llythrennedd a rhifedd.
5.
Yn cefnogi targedu recriwtio athrawon mewn meysydd pwnc prin fel mathemateg,
gwyddorau ac ieithoedd tramor modern, ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024