Cefnogi Wcreiniaid yng Nghymru
Cefnogi Wcreiniaid yng Nghymru
Yn dilyn
cyhoeddiad adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cefnogi
Wcreiniaid yng Nghymru ym mis Mawrth 2024, a’r ymateb dilynol gan Lywodraeth
Cymru, cytunodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gynnal ymchwiliad i’r
gefnogaeth a ddarparwyd i ffoaduriaid Wcreiniaid yng Nghymru.
Sesiwn
dystiolaeth lafar
Ddydd Mercher 6
Tachwedd 2024, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
tystiolaeth lafar gydag uwch swyddogion o Lywodraeth Cymru.
Tystiolaeth
ysgrifenedig
Ar 4 Mehefin
2024, ysgrifennodd
y Pwyllgor at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’w gwahodd i ddarparu
tystiolaeth ysgrifenedig i lywio’r ymchwiliad hwn. Cafwyd ymateb
ar 1 Gorffennaf 2024.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2024
Dogfennau