NDM8667 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya
NDM8667 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya
NDM8667 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y
terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros
flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y 469,571 o bobl a
lofnododd ddeiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith
drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’;
b) y Memorandwm
Esboniadol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig
(Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, lle nodwyd anfantais economaidd o hyd at
£8.9 biliwn yn sgil yr amseroedd teithio hirach a fyddai’n gysylltiedig â'r
polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya;
c) sylwadau'r
cyn-Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth y dylid bod wedi defnyddio mwy o synnwyr
cyffredin wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru;
d) adroddiad monitro
ansawdd aer Trafnidiaeth Cymru sy’n dangos, o ran hanner yr ardaloedd lle
cynhaliwyd profion, y bu cynnydd mewn lefelau nitrogen deuocsid y tu mewn i’r
parthau 20mya o'i gymharu â'r tu allan; ac
e) bod awdurdodau lleol
Cymru wedi cael ceisiadau i newid miloedd o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i ddiddymu'r terfyn
cyflymder diofyn o 20mya; a
b) i weithio gydag
awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno dull wedi'i dargedu o bennu terfynau
cyflymder o 20mya, sydd â chydsyniad pobl leol.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn nodi:
a) bod y terfyn
cyflymder rhagosodedig o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn;
a
b) cefnogaeth
drawsbleidiol flaenorol y Senedd ar gyfer cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya
yng Nghymru a phresenoldeb cynlluniau tebyg mewn cynghorau sy'n cael eu rhedeg
gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.
2. Yn credu, o'u
gweithredu'n briodol ac yn rhesymegol, bod gan derfynau cyflymder 20mya rôl
ddefnyddiol wrth wneud cymunedau'n fwy diogel a lleihau'r pwysau ar y GIG.
3. Yn gresynu at yr oedi
gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu ar welliant Plaid Cymru a gefnogir gan y
Senedd, a fyddai wedi grymuso cymunedau ar unwaith i adolygu a gwneud
eithriadau pellach yn ogystal ag adolygu'r canllawiau i awdurdodau lleol.
4. Yn cydnabod cryfder
teimladau ar y mater hwn o ganlyniad i weithredu, ymgysylltu a chyfathrebu
anghyson ynghylch y newidiadau.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adolygiad
presennol yn mynd i'r afael â'r pryderon y gellir eu cyfiawnhau, a'i fod ag
adnoddau digonol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1.
Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng
Nghymru ers dros flwyddyn.
2.
Yn nodi:
a) y
gostyngiad sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a
b) y ffaith
bod 469,571 o bobl wedi llofnodi deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru
ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’
c) y
rhaglen gynhwysfawr o wrando a gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl,
busnesau a chymunedau ledled Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol;
d) y ffaith
y bydd y gwaith monitro a gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o
effeithiau’r polisi o ran yr economi, iechyd a’r amgylchedd;
e) y ffaith
bod adroddiad monitro ansawdd aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis
Mai 2024 yn dangos nad oedd unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd
yma; ac
f) y
gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd
wedi derbyn ceisiadau i newid y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn
cyflawni terfynau cyflymder 20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn
mewn grym ar y ffyrdd cywir ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/11/2024