P-06-1465 Gwnewch Herwgydio Anifeiliaid Anwes yn Drosedd Benodol yng Nghymru
P-06-1465 Gwnewch Herwgydio Anifeiliaid Anwes yn Drosedd Benodol yng Nghymru
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Eileen Jones, ar ôl casglu 1,221 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae anifeiliaid
anwes yn rhan o’r teulu. Mae herwgydio’r anifeiliaid hyn yn brofiad trawmatig.
Er gwaethaf hyn, mae anifeiliaid anwes a gaiff eu dwyn yn cael eu hystyried yn
eiddo personol, ac mae’r dedfrydau cysylltiedig yn dibynnu ar eu gwerth
ariannol.
Yn Lloegr a
Gogledd Iwerddon, bydd Bil Herwgydio Anifeiliaid Anwes 2024 yn cydnabod yr
effaith y mae’r drosedd hon yn ei chael ar emosiynau a llesiant pobl ac
anifeiliaid anwes. Bydd herwgydio cŵn a chathod yn droseddau penodol a allai arwain at
ddedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar. Mae Bil Herwgydio Cŵn (Yr Alban) hefyd yn cael ei ystyried.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae Cymru wedi
dewis peidio â chyflwyno trosedd benodol ar gyfer herwgydio anifeiliaid anwes.
Bydd cŵn a chathod sy’n cael eu dwyn yn parhau i gael yr un
lefel o flaenoriaeth yng Nghymru ag eiddo sy’n cael ei ddwyn – blaenoriaeth isel. Os caiff troseddwr ei
ddal, yn gyffredinol, bydd yn wynebu dirwy fechan neu ddedfryd ohiriedig.
Rydym yn annog y
Senedd i ddiwygio’r drefn ar gyfer ymdrin ag achosion o ddwyn anifeiliaid anwes
yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno trosedd benodol ar gyfer herwgydio
anifeiliaid anwes.
O gofio bod
cosbau mwy penodol wedi’u cyflwyno yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd
anifeiliaid anwes yng Nghymru mewn perygl o gael eu gweld gan ladron fel
targedau mwy gwerthfawr. Rhaid inni gynnig yr un lefel o ddiogelwch i’n
hanifeiliaid anwes a’u teuluoedd â’r hyn a gynigir mewn rhannau eraill o’r DU.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 4/11/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 4/11/2024.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Bro
Morgannwg
>>>Canol
De Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/08/2024