Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal
Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal
Cyhoeddwyd
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc
sy'n derbyn gofal' ym mis Medi 2012. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar un
elfen o gyfrifoldebau'r rhiant corfforaethol: helpu plant a phobl ifanc sy’n
derbyn gofal i gyflawni eu potensial addysgol.
Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y pryd
i ofyn iddo ystyried canfyddiadau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol fel rhan
o’i waith craffu ar y ddeddfwriaeth gofal oedd ar y gweill.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2014