P-06-1450 Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd
P-06-1450 Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Anna-Louise Marsh-Rees, ar ôl casglu 330 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
>>>>
>>>Gwella
ansawdd aer mewn lleoliadau iechyd a lleoliadau gofal cymdeithasol drwy fynd
i'r afael ag awyru, hidlo aer a sterileiddio;
>>>Ailgyflwyno
gwisgo masgiau fel mater o drefn yn y lleoliadau hynny (yn unol ag argymhelliad
Sefydliad Iechyd y Byd ar 20 Rhag 2023), yn enwedig masgiau anadlol;
>>>Ailgyflwyno
profion Covid fel mater o drefn - mae'n asymptomatig;
>>>Sicrhau
bod llawlyfrau staff yn cynnwys atal heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr yn
llawn;
>>>Darparu
gwybodaeth iechyd y cyhoedd am ddefnyddio masgiau anadlol a hidlo aer HEPA yn
erbyn heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr.
<<<
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Caiff heintiau
fel Covid, ffliw, RSV, y frech goch a TB eu lledaenu drwy anadlu erosolau bach
a gludir yn yr awyr fel mwg. Ffyrdd allweddol o'i atal yw gwella ansawdd aer a
gwisgo masgiau anadlol sy'n ffitio'n dda. Mae ailheintio yn cynyddu'r risg o
niwed difrifol hirdymor posibl i unrhyw un, i'r ymennydd, y galon, y system
imiwnedd, ac ati. Gweithwyr gofal sydd ar frig y gynghrair Covid hir. Mae
salwch dro ar ôl tro a cholli swyddi yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau.
Dangoswyd bod cyfradd yr heintiau Covid a gafwyd yn yr ysbyty yn uwch nag yn y
gymuned. Yn aml mae'n rhaid i bobl sy'n agored i niwed yn glinigol ddefnyddio
mesurau gofal ond maent yn canslo apwyntiadau iechyd hanfodol. Mae trosglwyddo
yn aml yn asymptomatig. Nid yw Covid yn dymhorol. Felly mae profion rheolaidd
yn hanfodol. Mae yna lawer o ddulliau i ddiogelu iechyd. Dim ond un sy'n cael
ei ddefnyddio: brechu - nid yw ar gael i lawer, gan gynnwys rhai pobl sy'n
agored i niwed yn glinigol.
Rydym wedi
cymryd y camau a ganlyn:
>>>>
>>>cwrdd
â swyddogion arweiniol ac wedi gohebu â hwy ynghylch masgiau, awyru, brechu a
risg glinigol
>>>cyflwyno
ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
<<<

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Mynwy
>>>Dwyrain
De Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2024
Dogfennau