P-04-414 Swyddi Cymreig

P-04-414 Swyddi Cymreig

Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymell cyflogwyr sy’n adleoli i Gymru, neu’n agor cyfleusterau a marchnadoedd yma, i recriwtio staff lleol a’u hyfforddi pan fo angen gwneud hynny.

Gwybodaeth ategol:
Mae enghreifftiau o bob cwr o Gymru o swyddi newydd yn cael  eu cymryd gan weithluoedd o’r tu allan i Gymru - gweithluoedd cyfan mewn rhai achosion. Gallai cytuno ar ddiffiniad o ‘weithiwr allweddol’ helpu i osgoi sefyllfaoedd fel hyn. Dylid ei gyfyngu i swyddi arbenigol pan nad yw’r sgiliau neu’r cymwysterau gofynnol ar gael yn lleol a phan na allai pobl leol eu hennill yn ystod cyfnod byr o hyfforddiant. Fel arall, mae’n gamarweiniol, ar y gorau, bod gwleidyddion, y cyfryngau ac eraill yn cyhoeddi ‘swyddi newydd’, pan fo pobl Cymru yn cael eu hamddifadu o’r swyddi hynny, i bob pwrpas.

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Prif ddeisebydd: Royston Jones

Nifer y llofnodion: 65

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Angen Penderfyniad: 30 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad