Llawlyfrau'r Cabinet a Chod y Gweinidogion

Llawlyfrau'r Cabinet a Chod y Gweinidogion

Gwybodaeth gefndir am yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cynnal ymchwiliad byr i lawlyfrau’r Cabinet a Chod y Gweinidogion.

 

Ar 23 Mai 2024, clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus dystiolaeth gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y materion hyn. Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor, gan ymateb i nifer o’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

Yn dilyn hynny, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Parhaol at y Pwyllgor ar 26 Mehefin 2024 gyda gwybodaeth bellach am y Cod Gweinidogol a chyfrifoldebau gweision sifil mewn perthynas ag ef.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad rhwng 2 Gorffennaf a 30 Awst 2024 a chafodd 4 ymateb, sydd ar gael yma.

 

Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol dystiolaeth i’r Pwyllgor ar 2 Hydref 2024. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd y Pwyllgor at David Richards OBE, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Moeseg yn Llywodraeth Cymru. Ymatebodd David Richards i’r Pwyllgor ar 28 Hydref 2024.

 

Ysgrifennodd y Cadeirydd at Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru ar 26 Tachwedd 2024 yn nodi barn y Pwyllgor ar y newidiadau i'r Cod Gweinidogol. Ymatebodd Prif Weinidog Cymru ar 17 Rhagfyr 2024.

 

Ysgrifennodd y Cadeirydd at Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru ar 4 Rhagfyr 2024. Ymatebodd Brif Weinidog Cymru ar 24 Ionawr; ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor yr ymateb yn ei gyfarfod 6 Chwefror 2025.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau