Yr Economi Sylfaenol
Yr Economi Sylfaenol
Inquiry5
Mae'r Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i
ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn
cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol,
amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymchwiliad i'r Economi Sylfaenol.
Yn benodol,
ystyriodd y Pwyllgor:
>>>>
>>>I ba
raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gwreiddio cymorth i’r economi sylfaenol yn
y ffordd y mae’n ymdrin yn gyffredinol â datblygu economaidd? Pa gamau pellach
y dylai eu cymryd i wneud hyn?
>>>O
ystyried natur drawsbortffolio’r economi sylfaenol, sut y dylai Llywodraeth
Cymru greu dull cydgysylltiedig o brif ffrydio cymorth i sectorau’r economi
sylfaenol ar draws y llywodraeth?
>>>Pa
rai o fentrau polisi Llywodraeth Cymru ar yr economi sylfaenol sydd wedi bod
fwyaf llwyddiannus, a pham? Pa rai sydd heb weithio cystal, a pham?
>>>Pa
enghreifftiau o arfer gorau sy’n bodoli yng ngwahanol sectorau a lleoedd yr
economi sylfaenol yng Nghymru neu’r tu hwnt i Gymru? Sut y gallai Llywodraeth
Cymru gefnogi partneriaid yn well i sicrhau arfer gorau, ac i ehangu hynny lle
y bo’n briodol?
>>>Pa
gynnydd sydd wedi’i wneud o ran defnyddio caffael i gryfhau’r economi sylfaenol
ers i’r Pwyllgor a’n rhagflaenodd ystyried y mater hwn yn 2019? Pa gamau
pellach sydd eu hangen i sicrhau mwy o gynnydd, a pha enghreifftiau arloesol o
arfer gorau y gellid adeiladu arnynt?
>>>Pa
mor effeithiol y mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru wedi bod i sicrhau
gwaith teg yn sectorau’r economi sylfaenol? Pa gamau pellach y dylai eu cymryd
o fewn ei phwerau datganoledig i symud yr agenda hon yn ei blaen, a sut y gall
weithio gyda Llywodraeth y DU i ysgogi gwelliannau mewn meysydd nad ydynt
wedi’u datganoli?
<<<
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad - Yr
Economi Sylfaenol – ar 17 Ebrill 2025 (PDF 3.64MB)
Ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 177KB)
Cynhaliwyd dadl yn
y Cyfarfod Llawn ar 9 Gorffennaf 2025
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/08/2024
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 176 KB - Hide the documents
Ymgynghoriadau
- Yr Economi Sylfaenol (Wedi ei gyflawni)