P-04-412 Galw i Addoli ar y cyd gael ei Ddiddymu

P-04-412 Galw i Addoli ar y cyd gael ei Ddiddymu

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiddymu addoli ar y cyd mewn ysgolion yng Nghymru

Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod pob ysgol yn cynnal gweithred o addoli ar y cyd bob dydd. Hyd yn oed mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolionffydd’, rhaid i’r weithred hon fod yn Gristnogol ei natur yn fras. Mewn cymdeithas sy’n fwyfwy amrywiol, mae hyn yn sarhad ar hawliau pobl ifanc i fod yn rhydd i fynegi eu credoau. Er bod modd i bobl ifanc gael eu heithrio o’r weithred, mae hyn yn ddibynnol ar gael caniatâd gan eu rhieni, ac nid yw pob ysgol yn parchu’r opsiwn hwn. Mae’r gyfraith hon yn hynod o amhoblogaidd, gyda pholau piniwn yn dangos nad yw athrawon, rhieni a phlant eisiau ei chadw. Mae’n hen bryd, felly, bod ymgynulliad cynhwysol yn disodli’r weithred ddyddiol o addoli ar y cyd, er mwyn hyrwyddo cydlyniant ac ymdeimlad o gymuned mewn ysgolion. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddiddymu’r gofyniad i addoli ar y cyd sy’n orfodol mewn ysgolion ac i annog ysgolion i gynnal ymgynulliadau addysgiadol a fydd yn cynnwys pob plentyn, beth bynnag fo’i grefydd neu’i gred.

 

Prif ddeisebydd:
Richy Thompson

 

Nifer y deisebwyr:

828

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Angen Penderfyniad: 20 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad