P-06-1415 Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith

P-06-1415 Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Johnathan Hughes, ar ôl casglu 958 o lofnodion.

 

Geiriad y deiseb:

Byddai adeiladu’r ffordd liniaru’n helpu Cymru i ffynnu unwaith eto.
Byddai’n lleihau ciwiau ac amseroedd aros o amgylch ardal Bryn-glas.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gwariwyd miliynau ar arolygon ac ar brynu tir yn orfodol, ac yna rhoddwyd stop ar y cyfan heb bleidlais gyhoeddus. Pam?

 

Mae'r cyhoedd am ddod i Gymru a'i gadael heb orfod ciwio ddwywaith y dydd, bob dydd.

 

Mae twristiaid yn ailystyried dychwelyd i Gymru am fod twneli Bryn-glas yn draed moch.

 

Mae Cymru’n dibynnu ar dwristiaeth am refeniw, ond mae pawb yn mynd yn sownd ar ddarn dyddiedig o’r ffordd sydd â’r tagfeydd gwaethaf yng Nghymru.

 

Statws:

Yn ei gyfarfod ar 13/05/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/05/2024.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>Ogwr

>>>Gorllewin De Cymru

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/06/2024