NDM8630 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG
NDM8630 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG
NDM8630 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu gwaith
caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru.
2. Yn cydnabod
cynnig Llywodraeth y DU i helpu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhestrau
aros y GIG.
3. Yn gresynu at y
canlynol:
a) bod nifer yr achosion
o aros dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu i 21,290 yng Nghymru, y tro cyntaf
iddynt gynyddu mewn dwy flynedd, o'i gymharu â 275 yn Lloegr;
b) bod amseroedd aros
canolrifol am driniaeth y GIG yn 22 wythnos yng Nghymru, o'i gymharu â 13.9
wythnos yn Lloegr;
c) bod nifer y llwybrau
cleifion yng Nghymru wedi cynyddu eto i 775,031, sef y ffigur uchaf a
gofnodwyd, tra bod rhestrau aros wedi gostwng dros y chwe mis diwethaf yn
Lloegr; a.
d) nid yw 54.2 y cant o
alwadau coch am ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) dechrau dileu
technolegau hen ffasiwn y GIG;
b) cyflwyno cynllun
gweithlu sylweddol gydag ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n
aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau;
c) sicrhau bod y swm
llawn o gyllid canlyniadol Barnett sy'n deillio o wariant Llywodraeth y DU ar y
GIG ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; a
d) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i ddeall arfer gorau wrth dorri rhestrau aros y GIG.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu'r popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi methiant y Prif
Weinidog i gyflawni ei amcan ei hun o ddod â rhestrau aros i lawr yng Nghymru.
Yn gresynu yng Nghymru
a) bod nifer yr
arosiadau dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu i 21,290;
b) bod
arosiadau canolrifol 22 wythnos am driniaeth y GIG;
c) bod nifer y llwybrau
cleifion wedi cynyddu eto i 775,031, y ffigur uchaf a gofnodwyd; a
d) nad yw ambiwlans yn
cyrraedd o fewn wyth munud ar gyfer 54.2 y cant o alwadau ambiwlans coch.
Yn gresynu:
a) bod cynlluniau
gwariant Plaid Geidwadol y DU a Phlaid Lafur y DU yn awgrymu toriadau mean
termau real i feysydd heb eu clustnodi yng nghyllideb Cymru a fydd yn
gwaethygu'r pwysau ar y GIG; a
b) bod Plaid Geidwadol y
DU a Phlaid Lafur y DU yn agor y drws i ddarparwyr preifat elwa ar y GIG.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i ddechrau
dileu hen dechnolegau'r GIG;
b) i gyflwyno cynllun
gweithlu sylweddol gydag ad-daliad ffioedd dysgu i weithwyr gofal iechyd sy'n
aros yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl eu hastudiaethau;
c) i ddiogelu'r GIG
fel sefydliad cwbl gyhoeddus sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen; a
d) i wneud cais ffurfiol
i Lywodraeth nesaf y DU ddod â fformiwla annheg Barnett i ben i sicrhau cyllid
teg i Gymru a fydd yn galluogi buddsoddi yng ngweithlu'r GIG a recriwtio 500 o
feddygon teulu.
Yn galw ar Lywodraeth y
DU i ddod â fformiwla annheg Barnett i ben, ac ariannu Cymru yn ôl yr angen, er
mwyn buddsoddi'n briodol yn yr holl feysydd cyllideb yng Nghymru, gan gynnwys
iechyd a gofal cymdeithasol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) bod arosiadau hir
wedi lleihau 70 y cant ers y brig ym mis Mawrth 2022;
b) bod amseroedd rhwng
atgyfeirio a thriniaeth yn cael eu cyfrifo mewn ffyrdd gwahanol ar draws y DU –
yng Nghymru maent yn cynnwys amseroedd aros am therapïau a diagnosteg; ac
c) bod Cymru yn gwario
15 y cant yn fwy y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol nag yn Lloegr a bod
Llywodraeth Cymru, yn 2024-25, yn buddsoddi mwy na 4 y cant yn ychwanegol
yn y GIG o gymharu hynny â llai nag 1 y cant yn Lloegr.
Yn croesawu buddsoddiad
a chymorth parhaus Llywodraeth Cymru fel y gall GIG Cymru fanteisio ar y
diweddaraf o ran meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau.
Math o fusnes: Dadl
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2024