NDM8600 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Hyfforddiant deintyddol
NDM8600 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Hyfforddiant deintyddol
NDM8600 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pryderon a
gaiff eu codi’n rheolaidd gan Aelodau o’r Senedd am ddiffyg argaeledd
gwasanaethau deintyddol y GIG.
2. Yn nodi’r rhwystrau a
ddogfennir a’r argymhellion a wneir ar gyfer y ffordd ymlaen yn adroddiad y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth.
3. Yn nodi’r heriau
penodol yn ymwneud gyda chynllunio, hyfforddi, recriwtio a chadw deintyddion
yng Nghymru.
4. Yn nodi cyhoeddi y
Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol gan Addysg a Gwella Iechyd
Cymru ym Mai 2024 a’r cyfeiriadau a wneir yn y cynllun hwnnw, yn benodol:
a) fod Cymru yn
fewnforiwr net o ddeintyddion;
b) fod Cymru yn dibynnu
ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o ddeintyddion i’w
recriwtio i’r gweithlu; ac
c) mai’r Deyrnas Unedig
sydd â’r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o’i gymharu ag aelodau mawr
eraill y G7 yn Ewrop.
5. Yn nodi fod nifer y
lleoedd yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru wedi’u cyfyngu bob blwyddyn.
6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi prifysgol ar gyfer deintyddion yng
Nghymru.
Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2024