NDM8618 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd osgoi Cas-gwent
NDM8618 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd osgoi Cas-gwent
NDM8618 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod
manteision ffyrdd osgoi o ran cefnogi economïau lleol a lleihau tagfeydd.
2. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i Gyngor Sir Fynwy ddatblygu cynlluniau ar
gyfer ffordd osgoi Cas-gwent.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd
Gaerloyw i ddarparu ffordd osgoi Cas-gwent.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y
problemau o ran tagfeydd yng Nghas-gwent.
2. Yn cydabod yr angen
am rwydwaith trafnidiaeth integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi twf
yn yr ardal.
3. Yn cefnogi dull
Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir
Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r rhwydwaith
ffyrdd, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a darpariaeth teithio llesol i wella
teithio yng Nghas-gwent.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle:
Yn credu y dylid
ymgymryd â datblygiadau seilwaith mewn ymgynghoriad llawn â chymunedau ac
yn unol ag anghenion cymunedau a nodwyd.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio i ddarparu seilwaith newydd i leddfu tagfeydd yn unol â'r
egwyddorion hyn, gan gynnwys darparu trydydd bont y Fenai, a ffyrdd osgoi yn
Llandeilo a Chas-gwent.
Yn
galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau setliad ariannu teg ar gyfer Cymru, a'r
£4 biliwn mewn symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o HS2, i ddarparu'r
cyllid sydd ei angen i wella'r seilwaith trafnidiaeth a'r seilwaith ffyrdd yng
Nghymru er mwyn lleddfu tagfeydd.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2024