NDM8617 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Niwclear

NDM8617 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Niwclear

NDM8617 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu rôl ynni niwclear wrth greu swyddi â chyflog da a sgiliau uchel, wrth sicrhau ynni rhatach, glanach a mwy diogel, gan weithio tuag at dargedau sero-net.

2. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i arf ataliol trident y DU.

3. Yn croesawu ymhellach ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu gorsaf ynni gigawatt newydd yn yr Wylfa yng Ngogledd Cymru a gweithio gyda'r diwydiant i ddarparu prosiectau presennol yn Hinkley Point a Sizewell.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ehangu ynni niwclear yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi swyddogaeth ynni niwclear ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gwyrdd a theg i economi carbon isel, gan sicrhau bod yr holl ynni newydd a gynhyrchir yng Nghymru yn ynni allyriadau sero.

2. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ystyried yn llawn yr holl opsiynau ar gyfer gorsaf newydd yn yr Wylfa a chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer Trawsfynydd, gan gydnabod pwysigrwydd allweddol cydweithio mewn perthynas â'r pwerau datganoledig perthnasol. 

3. Yn croesawu swyddogaeth flaengar Llywodraeth Cymru, wrth gydweithio â Llywodraeth y DU, y diwydiant a phartneriaid, er mwyn cefnogi ynni niwclear yng Nghymru er mwyn gwneud y gorau o’r manteision economaidd-gymdeithasol ar gyfer Cymru.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn dathlu bod gan Gymru yr adnoddau naturiol i fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy.

2. Yn credu, os caiff ei ariannu'n briodol, y gallai ailddatblygiad arfaethedig safle'r Wylfa greu swyddi sgiliau uchel ar gyfer Ynys Môn.

3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i:

a) datganoli pwerau llawn dros Ystâd y Goron i Gymru, er mwyn sicrhau bod ein cymunedau'n gallu elwa'n llawn ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr fel dewisiadau amgen hyfyw yn lle gorsafoedd ynni niwclear newydd; a

b) sicrhau bod datblygiad safle'r Wylfa yn cyd-fynd yn llawn ag anghenion y gymuned leol.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2024