NDM8566 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gofal iechyd menywod
NDM8566 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gofal iechyd menywod
NDM8566 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu bod poen
corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu gofal iechyd, yn
ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd menywod ond yn un
na ellir ei hosgoi.
2. Yn credu, drwy
ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y dylai
gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen yn
ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y
GIG.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cryfhau'r
disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd
menywod a merched;
b) sefydlu gofyniad
cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan gleifion
benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig mewn
perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau ôl-enedigol,
iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac
c) cyflwyno
rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun
Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a
grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd
i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac i’w atal.
Cyd-gyflwynwyr
Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru)
Cefnogwyr
Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2024