NDM8605 Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pwer newydd
NDM8605 Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pwer newydd
NDM8605 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y
safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid gosod llinellau pŵer
newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl.
2. Yn credu, lle bynnag
y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y
ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig ceblau yn hytrach na chloddio ffos
agored.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi Cynllunio Cymru:
a) i ddileu’r cafeat
presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran
costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn
anhyfyw’; a
b) er mwyn sicrhau bod
gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y ddaear yn ofyniad absoliwt yn
hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi nodi: 'dylid gosod llinellau
pŵer newydd o dan y ddaear.'
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
2. Yn credu, lle bynnag
y bo’n ffisegol bosibl, y dylai llinellau pŵer newydd gael eu gosod o dan
y ddaear mewn modd sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid
cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau
pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi
pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2024