NDM8606 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd
NDM8606 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd
NDM8606 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) cynllun clir a chamau
dewr Llywodraeth y DU i bennu llwybr er mwyn sicrhau dyfodol diogel;
b) camau Llywodraeth y
DU i leihau chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant;
c) y ffaith mai’r DU
yw’r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7;
d) y bargeinion twf
rhanbarthol ym mhob rhan o Gymru, sy'n sicrhau mai Cymru yw’r unig genedl
Bargeinion Twf yn y DU; ac
e) porthladdoedd rhydd
Llywodraeth y DU yng ngogledd a de Cymru, ynghyd â’i pharthau buddsoddi ar
gyfer gweithgynhyrchu uwch.
2. Yn gresynu bod gan
Gymru, o dan Lywodraeth Cymru:
a) y gyfradd gyflogaeth
isaf;
b) y cyflogau canolrifol
isaf; ac
c) y gyfradd uchaf o
anweithgarwch economaidd yn y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy:
a) sicrhau ffyniant
broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad;
b) adfer rhyddhad
ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden
i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;
c) cael gwared ar
ardrethi busnes i fusnesau bach;
d) galluogi
microfusnesau i dyfu gyda chynllun sbardun gan dalu yswiriant gwladol ar ran y
cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd;
e) cyflwyno 150,000 o
brentisiaethau newydd yn nhymor y Senedd nesaf; ac
f) creu cynllun i roi
hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) cynllun clir
Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd:
Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach;
b) y ffaith bod cyflogau
wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011;
c) y ffaith bod gwaith
rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn;
d) buddsoddiad
gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel;
e) y ffaith bod
Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc;
f) y buddsoddiad sydd
wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru;
g) darparu gwerth
dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr
oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a
h) y cyfraniad o £78m
sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth
bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig.
2. Yn gresynu at y
canlynol o dan Lywodraeth y DU:
a) diffyg cynllun
economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25,
gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn;
b) bod prisiau’n
parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers
annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill
nag oeddent dair blynedd cyn hynny;
c) bod gan
Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai
wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a
d) bod gan Gymru
bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant
Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle
cyllid yr UE.
3. Yn galw ar
Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod:
a) mai’r
newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif
resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant;
b) bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu,
sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad
ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru;
c) y niwed sylweddol a
wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu
bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a
d) y cafodd y Gronfa
Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith
cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le:
Yn gresynu:
a) y difrod economaidd a
wnaed i Gymru yn sgil 14 mlynedd o gyni o dan Lywodraethau Ceidwadol y DU;
b) y niwed economaidd
pellach a achoswyd gan Brexit caled a mini-gyllideb honedig Liz Truss;
c) nad yw Cymru'n derbyn
cyllid teg gan San Steffan, ac nad yw fformiwla Barnett yn darparu setliad
ariannu sy'n adlewyrchu anghenion economaidd, ariannol neu gymdeithasol Cymru;
d) bod Llywodraethau
Ceidwadol y DU yn amlwg wedi methu â chodi'r gwastad o ran Cymru, a bod y
Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael eu defnyddio i
ariannu prosiectau tymor byr dros benaethiaid Llywodraeth Cymru a'r Senedd; ac
e) y cyfraddau uchel o
dlodi, yn enwedig tlodi plant, sydd wedi deillio yn sgil dull y
Ceidwadwyr o reoli economi'r DU.
Gwelliant 3 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ym mhwynt 2, cynnwys
is-bwynt newydd cyn is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny:
dim targedau datblygu
economaidd diffiniedig na mesuradwy clir;
Gwelliant 4 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy:
a) sicrhau ffyniant
broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad;
b) adfer rhyddhad
ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a
hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;
c) gosod targedau
economaidd clir a mesuradwy;
d) darparu gwell cynnig
cymorth busnes a gwell cymorth cynllunio olyniaeth ar gyfer busnesau bach a
chanolig domestig;
e) cyflwyno ymchwil ar
drethi newydd posibl er budd busnesau;
f) darparu 150,000 o
brentisiaethau newydd dros dymor nesaf y Senedd; a
g) creu cynllun i roi
hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau.
Gwelliant 5 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y
DU sy'n dod i mewn i weithredu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru drwy:
a) ceisio sicrhau bod y
DU yn ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE, a hynny ar
frys;
b) cael gwared ar
fformiwla Barnett, a chyflwyno setliad cyllido teg newydd i Gymru sy'n
adlewyrchu anghenion Cymru yn gywir; a
c)
sicrhau bod cyfran deg o gyllid allforio'r DU yn cael ei ddarparu i Gymru, a
bod cyllid i Gymru a gollwyd o ganlyniad i Brexit yn cael ei adfer.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2024