Y Fframwaith Safonau

Y Fframwaith Safonau

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r strwythurau a’r gweithdrefnau sy’n cefnogi’r fframwaith safonau yn y Senedd. Nod yr ymchwiliad hwn yw gwneud argymhellion i gryfhau effeithiolrwydd y fframwaith safonau i wella hyder yn y system ac atebolrwydd Aelodau i'r etholwyr.

 

Bydd y meysydd a drafodir gan yr ymchwiliad hwn yn cynnwys:

>>>> 

>>>Pa mor glir y mae pobl yn deall y prosesau a'r fframwaith o ran y safonau, ac a ellid cymryd camau pellach i'w hegluro'n well a helpu dealltwriaeth;

>>>Ystyried effeithiolrwydd y polisi Urddas a Pharch y cytunodd y Senedd arno yn 2018;

>>>Ystyried sut i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau rhag cael mynediad i'r drefn safonau;

>>>Ystyried y cymorth sydd ar gael i bawb sy'n ymwneud â'r broses gŵynion (achwynydd/tystion/yr Aelod y cwynwyd amdano);

>>>A oes digon o annibyniaeth ar bob adeg yn y drefn safonau ar hyn o bryd, a llwybrau posibl ar gyfer cynyddu annibyniaeth ar wahanol adegau yn y gweithdrefnau a'r prosesau;

>>>a oes unrhyw gamau neu fecanweithiau pellach mewn perthynas â chreu diwylliant o fewn y Senedd sy'n cefnogi'r fframwaith polisi urddas a pharch;

>>>a yw’n werth ymchwilio i ffyrdd eraill o gwyno yn enwedig ar adegau pan nad yw'r achwynydd yn dymuno rhoi gwybod i’r Comisiynydd Safonau am y mater ac a ddylai proses amgen gael ei chyfyngu i fathau penodol o gŵynion e.e. aflonyddu rhywiol, bwlio neu ymddygiad tebyg;

>>>A yw'r polisïau, y prosesau a'r cymorth presennol i staff cymorth Aelodau ar gyfer codi pryderon yn ddigonol;

>>>A ddylai fod cysondeb o ran prosesau a fabwysiadwyd gan Aelodau ar gyfer eu swyddfeydd, ac os felly, sut y dylid cyflawni hynny;

>>>Ystyried sut mae prosesau pleidiau gwleidyddol a phrosesau rheoleiddio ffurfiol yn rhyngweithio â’i gilydd, ac a ddylai fod mwy o gysondeb ym mhrosesau mewnol pleidiau;

>>>Pa mor effeithiol fu Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu weithdrefnol;

>>>Atebolrwydd effeithiol ar gyfer Aelodau o'r Senedd a fydd yn cynnwys ystyried cyflwyno mecanwaith adalw a sancsiynau;

>>>Ystyried a ddylid ehangu'r darpariaethau ar gyfer anghymhwyso o'r Senedd neu sefyll ar gyfer etholiad, i adlewyrchu'r safonau uchel a ddisgwylir gan y rhai mewn bywyd cyhoeddus.

<<< 

 

Mae'r meysydd a nodwyd yn eang ac yn gynhwysfawr, ac o'r herwydd byddant yn cael eu rhannu'n wahanol feysydd i sicrhau y gellir gwneud cynnydd mewn modd amserol.

 

Nod y Pwyllgor yw bod wedi cyrraedd safbwynt ar yr holl bwyntiau hyn cyn diwedd y Senedd hon, ac wedi gweithredu newidiadau lle mae amser yn caniatáu hynny.

 

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ystyried y pwyntiau hyn gan gynnwys ymgynghori; ymchwil bwrdd gwaith; sesiynau tystiolaeth cyhoeddus a phreifat; ymweliadau canfod ffeithiau; rapporteurs ac ystyried enghreifftiau o seneddau a chynulliadau eraill o fewn y DU ac mewn mannau eraill.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/05/2024

Ymgynghoriadau