P-06-1424 Dylid diwygio Bil Diwygio'r Senedd i ddarparu bod etholaethau'n cael cymeradwyo codiadau cyflog yr Aelodau o'r Senedd
P-06-1424 Dylid diwygio Bil Diwygio'r Senedd i ddarparu bod etholaethau'n cael cymeradwyo codiadau cyflog yr Aelodau o'r Senedd
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Alan Dawson, ar ôl casglu
566 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Senedd i ddatblygu a sefydlu system gymeradwyo
ar gyfer pob codiad cyflog a ddyfernir i’r Aelodau ac i’r weithdrefn hon gael
ei hymgorffori ym Mil Diwygio’r Senedd.
Drwy wneud hyn, byddai unrhyw godiad cyflog a argymhellir
gan y Bwrdd Taliadau yn mynd gerbron etholwyr pob Aelod ar gyfer pleidlais
rwymol i gymeradwyo neu wrthod rhoi’r codiad cyflog cytunedig i’w Haelodau
unigol, a hynny ar sail eu perfformiad fel cynrychiolwyr da.
Byddai’r system hon yn cael ei defnyddio ar gyfer
cynrychiolwyr etholaethol a chynrychiolwyr rhanbarthol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Byddai’r system a ddisgrifir uchod yn caniatáu i’r
etholwyr roi adborth clir ac effeithiol i’r Aelodau drwy gyplysu codiadau
cyflog yr Aelodau â’u perfformiad gwirioneddol wrth wasanaethu er budd eu
pleidleiswyr, a byddai hefyd yn arbed arian i gyllideb Cymru!
Gellid cynnal y bleidlais ar-lein i arbed costau
ymhellach i gyllideb Cymru.
Statws:
Yn ei gyfarfod ar 10/06/2024
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
10/06/2024.
Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd:
>>>>
>>>Arfon
>>>Gogledd Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/07/2024