Gwastraff
Gwastraff
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (y Pwyllgor) yn cynnal ymchwiliad undydd i wastraff.
Cefndir
Bydd y gwaith hwn
yn canolbwyntio ar y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyflawni strategaeth
economi gylchol Llywodraeth Cymru, Mwy
nag ailgylchu (Mawrth 2021) (PDF 2MB), ac yn benodol.
>>>>
>>>targedau
2025 – ailgylchu 70% o wastraff cartrefi, a gwastraff busnesau masnachol a
diwydiannol; gostyngiad cyffredinol o 26% mewn gwastraff; dim gwastraff i
safleoedd tirlenwi, gostyngiad o 50% mewn gwastraff bwyd y gellir ei osgoi;
>>>y
camau a gymerwyd hyd yn hyn gyda'r nod o ysgogi arloesi o ran y defnydd o
ddeunyddiau; cynyddu gweithgarwch atal ac ailddefnyddio; adeiladu ar ein record
ailgylchu; buddsoddi mewn seilwaith; galluogi gweithgarwch cymunedol a busnes;
ac alinio ysgogiadau'r Llywodraeth.
<<<
Mae gan y
Pwyllgor ddiddordeb penodol yn y modd y mae’r canlynol yn effeithio ar y
cynnydd a wneir, a sut y byddant yn effeithio arno yn y dyfodol:
>>>>
>>>Oedi
cyn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes a diwygiadau i’r drefn ar gyfer
cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.
>>>Y
broses o gyflwyno'r gwaharddiad ar gynhyrchion plastig untro a’r gofynion o ran
gwahanu gwastraff busnesau.
>>>Parodrwydd
y sector gwastraff, a’r gofynion o ran buddsoddi mewn seilwaith.
>>>Deddf
Marchnad Fewnol y DU.
<<<
Ein dull ni
Bydd y Pwyllgor
yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gydag arbenigwyr polisi, sefydliadau
rheoli gwastraff a busnesau ar 13 Mehefin 2024.
Bydd yr hyn sy’n
deillio o waith y Pwyllgor yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/05/2024
Dogfennau