P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol
P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Jane Jones Davies, ar
ôl casglu 12,075 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Galwn ar Lywodraeth Cymru i dyfu gwariant ar sefydliadau
sy’n diogelu treftadaeth a hanes Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol - ac nid torri’r cyllid o 10.5 - 22.3%
Mae’r sefydliadau yma yn gwarchod gwaddol hanes a
diwylliant ein cenedl, yn casglu, yn rhoi ar gadw, ac yn ei gyflwyno i bawb
sy’n byw yng Nghymru. Maent hefyd yn gosod ffenest i’r byd o’n hanes unigryw.
Gwybodaeth Ychwanegol:
O ystyried bod buddsoddiad yn y sector o £1 yn dod â thwf
o £5 i’r economi, nid yw’r arbedion o 0.02% i’r cyllideb cenedlaethol yn gwneud
synnwyr.
Gyda thoriadau llym i gyllidebau ysgolion, a chymdeithas
yng Nghymru yn wynebu heriau tlodi a diffygion mewn darpariaeth iechyd a gofal,
mae cyn bwysiced ag erioed dal gafael ar ganolfannau sy’n cynnal a thyfu ein
gwlad a’n cymunedau, gan ganiatau i’r cenedlaethau a ddaw adeiladu ar seiliau
cadarn llwyddiannau’r gorffennol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· Ceredigion
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
·
Gweld pob deiseb sydd ar agor
·
Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
·
Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/06/2024