NDM8570 Dadl Plaid Cymru - Adfer tomenni glo a phyllau glo brig
NDM8570 Dadl Plaid Cymru - Adfer tomenni glo a phyllau glo brig
NDM8570 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru’n gartref i
40 y cant o’r holl domenni glo sy’n weddill yn y DU, a hynny o ganlyniad i
ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru;
b) bod gan fwy o law a
thywydd eithafol y potensial i ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach; ac
c) y pryder a achosir i
breswylwyr sy'n byw ger tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd
ôl-ddiwydiannol eraill.
2. Yn gresynu bod
Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid i gefnogi'r gwaith o adfer ac
ail-bwrpasu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill
yn y tymor hir.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar frys i sefydlu corff newydd i ddarparu rhaglen
adfer addas i'r diben ar gyfer tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd
ôl-ddiwydiannol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddarparu ar frys yr arian ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn
archwilio a chynnal a chadw, yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol
hirdymor am ddiogelu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol
eraill drwy waith adfer priodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt 1 (a), dileu
'ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru' a rhoi 'dreftadaeth ddiwydiannol Cymru' yn
ei le.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, dileu 'yn
gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu' a rhoi 'yn credu y dylai
Llywodraeth y DU barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu' yn ei le.
Gwelliant 3 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru wedi darparu dros £44 miliwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal a gwella
diogelwch tomenni glo ers 2022, wedi cyflwyno system o fonitro’n rheolaidd
domenni categori C a D a bydd yn cyflwyno deddfwriaeth newydd fodern ar gyfer
tomenni nas defnyddir yn yr Hydref.
Gwelliant 4 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu
pwynt 4.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2024