Recriwtio a chadw athrawon
Recriwtio a chadw athrawon
Inquiry4
YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/EE-Dczgq2Eg
Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn cynnal ymchwiliad i recriwtio a chadw athrawon.
Adroddiad
Ar 29 Ionawr
2026, fe gyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
ysgrifenedig. (PDF 3.7MB)
Cefndir yr
ymchwiliad
Mae recriwtio a
chadw wedi bod yn destun pryder ymhlith undebau athrawon ers nifer o
flynyddoedd. Mae wedi cael sylw penodol mewn perthynas â phrinder o ran addysgu
gwyddoniaeth gan y Sefydliad Ffiseg a’r Cymdeithasau Brenhinol Bioleg a Chemeg.
Mae hefyd yn dod yn ganolbwynt i waith craffu'r Pwyllgor ar Fil y Gymraeg ac
Addysg (Cymru). Mae hefyd yn cyd-fynd â gwaith y Pwyllgor ar effaith diwygiadau
addysgol, lle mewn rhai achosion, mae materion yn ymwneud â’r gweithlu wedi’u
nodi fel ffactorau sy’n rhwystro gweithrediad.
Ar 24 Mehefin
2024 ysgrifennodd
(PDF 125KB) y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet gan dynnu sylw at rai o’r
pryderon hyn. Ar 6 Medi 2024, cawsom ymateb
(PDF 381KB), ac roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu pryderon y Pwyllgor
ynghylch recriwtio athrawon arbenigol gwyddoniaeth ac athrawon sy’n gallu
addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn fwy diweddar, ysgrifennodd
(PDF 131KB) y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu’r Cynllun
strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg. Yn benodol, yr amserlenni ar gyfer
cyhoeddi'r cynllun cyntaf a gyda phwy y maent yn gweithio i'w ddatblygu. Ar 12
Mawrth cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF 100KB).
Beth y bydd yr
ymchwiliad yn canolbwyntio arno
>>>>
>>>Rhwystrau
i recriwtio: Derbyniadau i Addysg Gychwynnol i Athrawon a ffactorau sy’n
effeithio ar recriwtio i swyddi (gan gynnwys ffocws ar bynciau blaenoriaeth,
cyfrwng Cymraeg, ysgolion uwchradd ac effaith diwygiadau addysgol Cymru ar
recriwtio athrawon).
>>>Ffactorau
sy'n effeithio ar gadw: (gan gynnwys ffocws ar bynciau blaenoriaeth,
cyfrwng Cymraeg, ysgolion uwchradd ac effeithiolrwydd cymorth gyrfa
gynnar).
>>>Arweinwyr
Ysgolion: ffactorau penodol sy'n effeithio ar recriwtio a chadw arweinwyr
ysgolion.
>>>Amrywiaeth
y gweithlu: a yw gweithlu’r presennol a’r dyfodol yn adlewyrchu amrywiaeth
poblogaeth Cymru gan gynnwys o ran rhyw, hil ac ethnigrwydd ac anabledd.
>>>Effaith
ar ddysgwyr: y sefyllfa bresennol o ran cyflwyno addysg a chymorth ehangach
i ddysgwyr.
>>>Effaith
ar gyflawni diwygiadau addysgol: gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru. Deddf
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Bil y Gymraeg
ac Addysg (Cymru).
>>>Effaith
ar athrawon a'r gweithlu ehangach: gan gynnwys ar y defnydd o gynorthwywyr
addysgu a staff cymorth, a’r effaith ar y defnydd o athrawon cyflenwi.
>>>Mynd
i'r afael â recriwtio a chadw: Pa gamau y dylid eu cymryd, a chan bwy, i
sicrhau cynaliadwyedd y gweithlu addysg a sut y dylid blaenoriaethu camau o'r
fath.
<<<
Ymgynghoriad
Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 18 Mawrth 2025, a
daeth hyn i ben ar 6 Mehefin 2025. Mae'r holl ymatebion
ar gael.
Casglu tystiolaeth
Rhwng mis Mai 2025 a Gorffennaf 2025, cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau
tystiolaeth lafar. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar yr agendâu cyfarfodydd
perthnasol.
Ar ran y
Pwyllgor, cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd gyfres o grwpiau
ffocws ar-lein gydag addysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd a chynhaliodd
ddigwyddiad rhanddeiliaid gyda phenaethiaid a chynhaliodd holiadur hefyd. Mae
adroddiad cryno o'r canfyddiadau hyn ar gael (PDF 527KB).
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/05/2024
Dogfennau
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - 29 Medi 2025
PDF 105 KB - Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu - 17 Medi 2025
PDF 527 KB - Llythyr at Brif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 1 Gorffennaf 2025
PDF 82 KB
Ymgynghoriadau
- Recriwtio a Chadw Athrawon (Wedi ei gyflawni)