Cyllidau a Llywodraethu'r GIG

Cyllidau a Llywodraethu'r GIG

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru offeryn data ym mis Medi 2023 a oedd yn crynhoi sefyllfa ariannol pob un o Fyrddau Iechyd y GIG yng Nghymru, yn seiliedig ar wybodaeth o’u cyfrifon ar gyfer 2022-23. Yn ystod y flwyddyn ariannol, gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol gynnwys amod yn ei farn ar gyfrifon pob un o'r saith Bwrdd Iechyd.

 

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i archwilio’r pwysau sy’n wynebu Byrddau Iechyd yng Nghymru a GIG Cymru yn ei gyfanrwydd, gan ystyried eu materion ariannol a llywodraethu. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>sefyllfa ariannol y GIG yn gyffredinol;

>>>y fframwaith uwchgyfeirio;

>>>yr adolygiad atebolrwydd;

>>>cynnydd mewn perthynas â Phrosiect Canolfan Ganser Felindre.

<<< 

 

Clywodd y Pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru ar 8 Mai. Bydd y Pwyllgor wedyn yn clywed tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd yn ddiweddarach yn yr ymchwiliad.

Math o fusnes: Arall

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/04/2024