Craffu ar Gyfrifon – Llywodraeth Cymru 2020-21

Craffu ar Gyfrifon – Llywodraeth Cymru 2020-21

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy’n gyfrifol am drafod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru.

 

Llofnododd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei dystysgrif a’i adroddiad ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021 ar 4 Awst 2022, yr un diwrnod ag y cafodd y Cyfrifon eu cymeradwyo, ac fe osodwyd y Cyfrifon  gerbron y Senedd y diwrnod canlynol, sef 5 Awst 2022.

 

Roedd hyn naw mis yn ddiweddarach na'r amserlen y cytunwyd arni ar gyfer cwblhau'r cyfrifon terfynol.

 

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariadau preifat rheolaidd ar y cynnydd a wnaed wrth gwblhau'r cyfrifon. Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Llywodraeth Cymru ddiweddariadau, gan alluogi'r Pwyllgor i fonitro'r sefyllfa.

 

Codwyd yr oedi yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ionawr 2022,  ac ar 29 Mehefin 2022 gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad am y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru  ar 6 a 19 Hydref 2022.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Ysgrifennydd Parhaol Cymru ar 11 Tachwedd 2022 mewn perthynas â nifer o faterion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022.

 

Ymatebodd yr Ysgrifennydd Parhaol i lythyr y Pwyllgor ar 9 Rhagfyr 2022 a thrafododd y Pwyllgor yr ymateb hwn yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2023.

 

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad: Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21 a osodwyd ar 27 Mawrth 2023.

Math o fusnes:

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/04/2024

Dogfennau