P-06-1423 Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion!

P-06-1423 Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion!

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Wyck Gerson Lohman, ar ôl casglu 842 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, y byddai gwasanaeth y Cardi Bach yn parhau. Yna, yn gwbl annisgwyl, daeth y newyddion y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar 31 Hydref. Y rheswm, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yw ‘na chafwyd cyllid yn lle’r cyllid Ewropeaidd fel yr addawyd.’ Mae hyn yn newyddion drwg iawn i drigolion lleol nad oes car ar gael iddynt, yn ogystal ag i'r diwydiant twristiaeth.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i adfer y gwasanaeth fel rhan o'r contract newydd ar gyfer gwasanaeth y T5. Mae’n hollbwysig bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau nad yw cymunedau ar hyd y llwybr hwn yn cael eu hynysu am eiliad yn hwy nag sydd rhaid. 

Wrth lansio Blwyddyn y Llwybrau 2023, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: ‘Nod y flwyddyn hon yw darganfod trysorau wedi'u colli, ymgymryd â theithiau'r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau sy'n gysylltiedig ag atyniadau, digwyddiadau, tirweddau a'r arfordir. Rydyn ni'n dechrau 2023 gydag ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod Cymru yn weladwy, ac yn edrych ymlaen at annog pobl i ymweld â rhannau gwahanol o'r wlad drwy gydol y flwyddyn nesaf.'

Mae'r economi ymwelwyr yn gyfrannwr ac yn sbardun allweddol i'r economi yng Nghymru. Mae Covid wedi bod yn ergyd drom iddi. Mae gwasanaethau fel y Cardi Bach yn gwbl hanfodol er mwyn helpu i unioni’r niwed hwnnw!

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/11/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/05/2024.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·     Ceredigion

·     Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

[PetitionFooter]

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2024