Llythrennedd iechyd
Llythrennedd iechyd
Roedd y Pwyllgor
wedi dewis llythrennedd iechyd fel Maes
o Ddiddordeb Ymchwil. Mae llythrennedd iechyd yn ymwneud â gallu unigolion
i ddod o hyd i wybodaeth iechyd, deall y wybodaeth honno a gweithredu yn ei
chylch, i wybod pa wasanaethau iechyd i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio, ac i
fod yn bartneriaid gweithredol yn eu gofal. Dyma hefyd sut mae sefydliadau
perthnasol yn diwallu'r anghenion hynny, gan alluogi unigolion i gael mynediad
at wybodaeth a gwasanaethau iechyd, eu deall a’u defnyddio.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei Faes o Ddiddordeb Ymchwil ym mis Awst 2022 ac wedi hynny gofynnodd
i Dr Emily Marchant
o Brifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth yr Athro Tom Crick, Adran Addysg ac
Astudiaethau Plentyndod, Prifysgol Abertawe, wneud rhywfaint o waith yn y maes
hwn.
Mae Dr Marchant
wedi llunio dau adroddiad ar gyfer y Pwyllgor:
>>>>
>>>'Iechyd,
Addysg a Ffyniant i Bawb: Cymru fel
Prawf Llythrennedd Iechyd', Rhagfyr 2023
>>>Llythrennedd
iechyd yn yr ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru', Ebrill 2023
<<<
Mae'r Pwyllgor
wedi ystyried y ddau adroddiad ac wedi cytuno i ddefnyddio eu mewnwelediadau yn
ei ymchwiliadau yn y dyfodol.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2024
Dogfennau