NDM8545 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg
NDM8545 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg
NDM8545 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad
Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid a amlygodd:
a) bod sgoriau PISA wedi
gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn 2022;
b) mai deilliannau
addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU;
c) bod disgyblion yng
Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn
Lloegr;
d) bod yr esboniad am
berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a dull
gweithredu Llywodraeth Cymru; ac
e) bod y cwricwlwm
newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o ehangu
anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar gyfleoedd
addysg yn y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) comisiynu adolygiad
annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu cyflwyno;
b) blaenoriaethu addysg
plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;
c) sicrhau bod y rhai
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt; a
d) cyflwyno academïau ac
ysgolion rhydd.
Adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd
gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad
y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif
flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi gwaith
Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion
Dysgu Ychwanegol (Cymru).
3. Yn mynegi diolch i'r
gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.
4. Yn nodi, er gwaethaf
camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi
diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a
chyllid grant.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu
is-bwynt 2(d)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2024