Ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru
Ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:
- asesu'r cynnydd
a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb mewn cynllunio ariannol, yn benodol, ei dull o asesu effaith y gyllideb ar gydraddoldeb a'r broses Llunio Polisi Cynhwysol;
- archwilio effaith
dyletswyddau cydraddoldeb
y sector cyhoeddus ar gynllunio gwariant cyhoeddus;
- archwilio'r materion
ynghlwm wrth ddefnyddio technegau fel cyllidebu ar sail rhyw yn ymarferol;
- adolygu enghreifftiau
o ymarfer da i lywio datblygiad cyllidebu ar sail cydraddoldeb yng Nghymru;
- defnyddio arbenigedd
a thystiolaeth i lywio
gwaith craffu'r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft 2013-14.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Dogfennau
- Llythyr i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ – Tachwedd 2012 PDF 1 MB
- * Ymateb y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty - Ionawr 2013 PDF 224 KB Gweld fel HTML (2) 12 KB
- Papur i'w nodi - CELG(4) Achub y Plant (Saesneg yn unig) PDF 109 KB
- Papur i'w nodi - CELG(4) Chwarae Teg (Saesneg yn unig) PDF 70 KB